Cartref digidol diwylliant Cymru.

Podlediadau i ddysgwyr

No Categories Found

Ydych chi yn dysgu Cymraeg neu eisiau ymarfer eich Cymraeg? 

Mae gwrando ar bodlediadau Cymraeg yn ffordd da o ymarfer a gwella eich Cymraeg.

 

Dyma grynodeb o’r podlediadau Cymraeg sydd yn arbennig ar gyfer dysgwyr. 

 

Sgwrsio

Sgwrsio yw’r podlediad mwyaf poblogaidd ar wasanaeth Y Pod. Podlediad Cymraeg i ddysgwyr gan ddysgwyr! Yn y bodlediad yma, ti’n gallu wrando i gyfelidadau (neu “sgyrsiau”) gyda pobl sy’n dysgu Cymraeg.

 

Doctoriaid Cymraeg

Podlediad gan y Doctor Cymraeg(Stephen Rule) a Doctor Sara Louise Wheeler. Podlediad i ddysgwyr Cymraeg sydd ar ddechrau eu siwrne.

 

Dysgu Cymraeg gyda Sian

Clipiau byr a chyflym sy’n eich helpu i ddysgu Cymraeg gam wrth gam. Mae Sian wedi bod yn dysgu Cymraeg ers deng mlynedd ac wedi creu’r podlediadau yma i’ch helpu chi i ddysgu Cymraeg yng nghysur eich cartref eich hun. Mae hefyd yn offeryn gwych sy’n darparu cymorth ychwanegol i fyfyrwyr wrth adolygu ac ymarfer y Gymraeg gartref.

 

 

Podlediad Cylchgrawn Cip

Podlediad Cylchgrawn Cip gan Urdd Gobaith Cymru. Yn y podlediad hon, gelli wrando ar straeon cylchgrawn Cip, sy’n cael ei gyhoeddi gan yr Urdd. Mae’r podlediad yn gyfle i ddarllen a gwrando ar straeon Cip ar yr un pryd.

 

Podlediad Ffit Cymru – Soffa I 5K I Ddysgwyr

Eisiau cadw’n heini a gwella eich Cymraeg? Dilynwch gynllun Soffa i 5K trwy wrando ar bodlediad FFIT Cymru gydag’r arbenigwr ffitrwydd, Rae Carpenter, sydd wedi ei greu yn arbennig ynghyd â Say Something in Welsh ar gyfer unigolion sy’n llai rhugl yn y Gymraeg.

 

Crochan Disney

Ydych chi’n hoffi disney? Dyma bodlediad Crochan Disney gyda David Herzog (o America) ac ei wraig April (o’r Wyddgrug) yn sgwrsio amdana popeth Disney. Y ffilmiau! Y parciau! Trifia Disney! Hefyd, mae David ac April yn dysgu Cymraeg, felly mae eu penodau o’r hyd a’r cyflymder perffaith i ddysgwyr Cymraeg. 


RHANNWCH