Wrth i bethau dechrau poethi yn y byd chwaraeon gan gynnwys gemau pwysig i dîm pêl-droed Cymru, pencampwriaeth rygbi’r chwe gwlad, a’r clasuron yn y byd seiclo, mae ‘na ddigonedd o bodlediadau i chi cael y diweddaraf o’r meysydd chwarae.
Dyma grynodeb o’r podlediadau chwaraeon sydd ar gael yn y Gymraeg.
Podlediad Sgorio
Y gorau o gampau’r Cymry ar draws y cynghreiriau pêl-droed, croeso i Pod Sgorio yng nghwmni Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym.

Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn “Y Coridor Ansicrwydd” ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill.

Cefn Y Rhwyd
Steff a Rhodri yn trafod y byd pêl droed ar wasanaeth Cymru Sport https://cymrusport.cymru/

Os ydych chi’n ffan o clwb pel-droed Wrecsam dyma’r podlediad
i chi.

Rygbi:
Eich diweddariad Rygbi Cymru wythnosol, sy’n cwmpasu’r pedwar rhanbarth, y tîm cenedlaethol a gêm y merched – yn eich mamiaith.

Seiclo:
Y Dihangiad
Y podlediad Cymraeg sy’n trin a thrafod y byd seiclo proffesiynol yng nghwmni Dewi Owen a Rheinallt ap Gwynedd.

Pen yn y Gêm
Podlediad Cymraeg am Feddyldryd ac Iechyd Meddwl o fewn Chwaraeon

Mae’r holl bodlediadau yma ar gael ble bynnag yr ydych yn gwrando ar bodleldiadau ond dewch draw i ypod.cymru i bori a darganfod mwy o bodlediadau Cymraeg.