Cartref digidol diwylliant Cymru.

Penwythnos PRINT | PRINT weekend

No Categories Found

Penwythnos o gylchgronau Cymru
27-28 Mawrth 

Dros benwythnos Mawrth 27-28 bydd AM ar y cyd â Chyngor Llyfrau Cymru, yn cynnal PRINT – deuddydd o ddathlu a chefnogi cylchgronau Cymru.

Yn aml, nid yw’r sylw haeddiannol yn cael ei roi i gylchgronau amrywiol Cymru: yn arbennig felly yn y dyddiau heriol yma. Pwrpas PRINT felly yw dathlu amrywiaeth a bodolaeth ein cylchgronau yng Nghymru drwy benwythnos fydd yn cynnwys eitemau digidol arbennig ynghyd a chyfle i danysgrifio i dderbyn a chefnogi’r cylchgronau hyn. Bydd PRINT yn parhau ar ôl y penwythnos fel sianel barhaol ar AM fydd yn un man cyfleus lle gellir tanysgrifio i unrhyw un o gylchgronau Cymru.

Bydd PRINT yn dathlu a chynnwys Cylchgrawn Cara, New Welsh Review, O’r Pedwar Gwynt, Llen Natur, Golwg, Wales Art Review, Lingo Newydd, WCW a’i Ffrindiau, Y Cymro, Planet Magazine, Llafar Gwlad, Y Wawr, Poetry Wales, Welsh Agenda, Cylchgronau’r Urdd – Cip, Bore Da, IAW, Cristion a Lucent Dreaming.


Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Adran Grantiau Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru:

“Mae’r Cyngor Llyfrau yn falch o allu cefnogi 26 o wahanol gylchgronau yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn brint a digidol, ac mewn pob math o feysydd. Rydym yn ddiolchgar iawn i AM am roi’r llwyfan hwn i gylchgronau Cymru. Yn wahanol i lyfrau, anaml iawn mae cyfle i ddathlu’r cylchgronau Cymraeg a Chymreig sydd yn rhan mor allweddol o’n diwylliant a’n bywyd dinesig ni. Hyd yn oed yn oes y cyfryngau cymdeithasol mae lle allweddol i’r cylchgronau i ennyn trafodaeth a rhoi awyr iach i syniadau ddatblygu.”


Ychwanegodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr AM:

“Mae cadw cylchgrawn i fynd yn ystod y pandemig wedi bod yn gamp sydd heb gael ei sylw dyladwy. Mae creu cyfle i dynnu sylw at hyn, i fwynhau rywfaint o gynnwys gwych cylchgronau Cymru ac i annog pobl i danysgrifio iddynt yn rhywbeth pwysig”


Crëwyd brand PRINT gan y dylunydd graffeg ac artist, Ela Mars. Astudiodd Ela Dylunio Graffeg ym Mhrifysgol Nottingham Trent, ac erbyn hyn mae hi’n gweithio fel dylunydd llawn amser i gwmni Golwg yn dylunio Golwg, Lingo Newydd a Wcw a’i ffrindiau. Yn ei hamser sbâr mae hi’n creu gwaith print a phrosiectau brandio wedi ei gomisiynu fel Ela Mars Design.

Dywedodd Siân Powell, Prif Weithredwr Cwmni Golwg:
“Mae Golwg yn falch iawn o allu cymryd rhan yn PRINT. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i barhau i gynhyrchu cylchgronau heb sôn am eu gwerthu, ond trwy’r her mae cyfleoedd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mewn cyfnod lle mae llais annibynnol a newyddiaduraeth annibynnol yn fwyfwy pwysig nag erioed o’r blaen i graffu, i’n diddanu a’n ysbrydoli mae PRINT yn amserol iawn. Gobeithio bydd cynulleidfa AM yn mwynhau pori’r cyfoeth o gylchgronau sydd ar gael yng Nghymru ac yn dod ar draws rhywbeth newydd.”


Meddai Emily Trahair, Golygydd Planet: the Welsh Internationalist:
“Rydym yn falch iawn o gymryd rhan ym mhenwythnos PRINT AM mewn cydweithrediad â Chyngor Llyfrau Cymru. Er bod ein tanysgrifiadau wedi bod yn ffynnu yn ystod y cyfnod glo, mae’r pandemig yn amlwg wedi cael effaith ddifrifol ar werthiant yn y siopau, ac ar hyn o bryd nid oes cyfle i werthu’r cylchgrawn mewn digwyddiadau – felly mae ymdrechion AM i gefnogi print Cymreig annibynnol trwy lwyfannau digidol yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.”


Bydd PRINT ar gwefan ac app AM – www.amam.cymru / mae’r app ar gael i’w lawrlwytho drwy Apple a Google Play.

Am wybodaeth bellach neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Nannon Evans nannon@pyst.cymru

RHANNWCH