Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennodau 58 – ‘Rhyfedd, Rhyfedd, Rhyfedd’: Morgan Llwyd rhan 3

Llenyddiaeth

Yn y bennod hon ystyriwn dau lyfr a gyhoeddwyd gan Morgan Llwyd yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan ddechrau â Gwyddor Uchod, cerdd hir sy’n trafod y sêr a’r planedau, gan gyfuno gwyddoniaeth a chyfriniaeth Gristnogol. Rydym ni’n diffinio ‘cyfriniaeth’ hefyd wrth fynd heibio a nodi’i bod yn ffenomen a geir mewn gwahanol grefyddau ar draws y byd.

Edrychwn hefyd ar Gair o’r Gair neu Sôn am Sŵn, llyfr sy’n fyfyrdod ynghylch y gwahaniaeth rhwng ieithoedd bydol a gair Duw, er ei fod hefyd yn dyrchafu gwerth ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg ac yn addasu dyfyniad allweddol hen broffwydoliaeth Gymraeg boblogaidd wrth wneud hynny. Nodwn hefyd gysylltiad annisgwyl rhwng Morgan Llwyd a Bob Marley a darganfod o bosibl fod gwedd ysbrydol ar Richard Wyn Jones na wyddai’i gyfaill Jerry Hunter amdani!

RHANNWCH