Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod Arbennig: Ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg . . . yn America!

Llenyddiaeth

Dyma bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn siop lyfrau Storyville, Pontypridd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024.

Ac yntau newydd orffen ei ddarllen, roedd Richard Wyn Jones am drafod llyfr diweddaraf ei gyd-gyflwynydd, Dros Gyfiawnder a Rhyddid. Mae’n gyfrol sy’n darlunio hanes cymuned Gymraeg benodol yn ystod Rhyfel Cartref America, gan ganolbwyntio mewn dull storïol ar y dynion yn y fyddin ond gan ystyried hefyd eu perthynas â’u cymuned gartref yn Wisconsin.

Mae’r stori’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng geiriau Cymraeg gwreiddiol y Cymry Americanaidd hyn, ac yn ôl Richard Wyn Jones, ‘mae’n syfrdanol’ ei bod hi’n bosib cyflwyno cymaint o’r hanes cyffrous hwn yn y modd hwn. A nifer o brif gymeriadau’r stori wedi’u geni yn yr Unol Daleithiau a’u magu’n siarad Cymraeg fel eu mamiaith, mae hefyd yn bennod ddiddorol yn hanes cymdeithasol yr Hen Iaith. Ac fel y noda Richard Wyn Jones, mae’r modd y maen nhw’n ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg yn cysylltu’r deunydd hwn â llawer o lenyddiaeth Gymraeg o’r Oesau Canol a drafodwyd yng nghyfres gyntaf y podlediad hwn. 

Prynwch ‘Dros Gyfiawnder a Rhyddid’ YMA

RHANNWCH