Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 9 – Wyt ti’n cofio Macsen?

Llenyddiaeth

Yn y bennod hon trafodwn y chwedl sy’n sylfaen i bennill cyntaf cân boblogaidd Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’ – Breuddwyd Macsen Wledig. Yn debyg i’r gân fodern honno, mae’r stori ganoloesol hon yn cynnig golwg ar hen hanes mewn modd sy’n hynod ystyrlon yn nhermau hunaniaeth Gymreig. Ar un wedd, stori serch sydd yma, a’r briodas rhwng ymherodr Rhufain, Macsen, a thywysoges Gymreig, Elen, yn ieuo’r grymoedd gwleidyddol y maen nhw’n eu cynrychioli.

Yn hytrach na’u gweld fel gormes estron, mae’r chwedl hon yn ymfalchïo yn y cysylltiad â’r Rhufeiniaid, gan ddarlunio’r briodas fel cyfrwng i ddiwyllio’r deyrnas Gymreig/Brydeinig. Ceir hefyd eglurhad syfrdanol o dreisgar am y cysylltiad ieithyddol rhwng yr iaith Gymraeg a’r Llydaweg.

Darllen Pellach:
– Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980)

RHANNWCH