Wrth i ni barhau i ystyried barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nodwn yn gyntaf fod barn ysgolheigion diweddarach yn negyddol iawn amdani ar y cyfan. Cawn gyfle felly i ofyn cwestiwn cyffredinol: ai sothach sentimental a gwaith gorgrefyddol sych yw swmp barddoniaeth y cyfnod?
Awn ymlaen i drafod ‘yr hen bersoniaid llengar’, Anglicaniaid a oedd yn hyrwyddo diwylliant Cymraeg yn egnïol (ac yn ceisio gwrthbwyso grym diwylliannol ymneilltuaeth). Canolbwyntiwn ar un ohonynt, John Jenkins (1770-1829) neu ‘Ifor Ceri’, a dau o’r beirdd a gâi nawdd yn ‘llys’ yr ‘Ifor Hael’ hwn. Darllenwn ychydig o waith yr amryddawn Evan Evans (1795-1855) neu ‘Ieuan Glan Geirionydd’, gan ddechrau â’r faled alarus ddramatig, ‘Cyflafan Morfa Rhuddlan’. A ninnau’n diffinio’r ‘delyneg’ wrth fynd heibio, edrychwn ar un o gerddi mwyaf poblogaidd Ieuan Glan Geirnioydd, ‘Ysgoldy Rhad Llanrwst’. Pan awn ati i drafod y bardd John Blackwell (1797-1840) neu ‘Alun’, caiff Jerry Hunter foddhad neilltuol pan sylweddola Richard Wyn Jones ei fod yn gyfarwydd â’r gerdd dan sylw wedi’r cwbl!
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes
Darllen Pellach:
- Bedwyr Lewis Jones, Yr Hen Bersoniaid Llengar (Yr Eglwys yng Nghymru, 1963).
- John Blackwell (Alun), Cathl i’r Eos a Cherddi Eraill (Melin Bapur, 2025)
Dyma’r canueon y cyfeiriwn atynt: Alaw, ‘Baled Morfa Rhuddlan’:
• Baled Y Morfa Rhuddlan