Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 80 – Ann Griffiths (1776-1805)

Llenyddiaeth

Tan yn ddiweddar, Ann Griffiths oedd yr unig fardd benywaidd a welid mewn canonau llenyddol Cymraeg. Nid yw’n syndod felly i Richard Wyn Jones ddweud ei fod yn lled gyfarwydd â hi wrth i ni ddechrau trafod yr emynyddes enwog yn y bennod hon. Ond mae Richard yn dysgu’n fuan fod agweddau syfrdanol ar hanes y brydyddes ryfeddol hon nad oedd yn gwybod amdanynt – gan gynnwys hanes ei henw!

Trafodwn gyd-destun cyfansoddi barddoniaeth ysbrydol Ann a holi a yw’n bosibl awgymru’i bod yn ‘gyfrinydd’? Rydym ni’n ystyried y wedd ‘nwydus’ ar ei gwaith y mae rhai darllenwyr wedi’i synhwyro hefyd. Ac wrth olrhain hanes cyfansoddi, trosglwyddo a chyhoeddi’i gwaith hi, mae Jerry yn gofyn cwestiwn pryfoclyd: a yw’n iawn i bobl ganu, darllen ac astudio emynau Ann Griffiths heddiw gan ei bod hi wedi dweud nad oedd am i neb ‘eu cael nhw’ ar ôl iddi farw?

RHANNWCH