Edrychwn yn y bennod hon ar un o gymeriadau mwyaf enigmatig y traddodiad llenyddol Cymraeg (ac efallai un o gymeriadau mwyaf enigmatig hanes Cymru yn gyffredinol), sef Edward Williams neu Iolo Morganwg (1747-1826).
Ystyriwn ei radicaliaeth wleidyddol gan ei chysylltu â rhai o’i gerddi gwreiddiol. Talwn deyrnged i’w gyfraniadau diwylliannol a’i allu ysgolheigiaidd. Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni oedi a thrafod ei ffugiadau hefyd. Mae llu o gwestiynau gwefreiddiol yn codi. Ai siop Iolo oedd siop fasnach deg gyntaf Cymru? Pam aeth ati i ffugio cymaint o bethau? I ba raddau yr oedd yn ffigiwr cwbl unigryw ac i ba raddau y gellir ei gysylltu â mudiad Rhamantaidd ehangach? Trafodwn ei ymwneud â Chymdeithas y Gwyneddigion hefyd a chawn gyfle i sôn ychydig am un o’i gydnabod, Morgan John Rhys.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes
Darllen Pellach:
- G. J. Williams, Iolo Morganwg (1956).
- Ceri Lewis, Iolo Morganwg (1995).
- Geraint Jenkins, A rattleskull genius: the many faces of Iolo Morganwg (2005).
- Mary-Ann Constantine, The truth against the world: Iolo Morganwg and Romantic forgery (2007).
- Marin Löffler, The literary and historical legacy of Iolo Morganwg, 1826-1926 (2007).
- Geraint Jenkins, Bard of Liberty: the political radicalism of Iolo Morganwg (2012).
- Prys Morgan, ‘From a Death to a View: The Hunt for the Welsh Past in the Romantic Period’, yn Eric Hobsbawn a Terence Ranger (goln.), The Invention of Tradition (1983).