Cawn gyfle yn y bennod hon i ystyried dwy wedd ar yrfa lenyddol Marged Dafydd. Yn enedigol o’r Coetgae-du ym mhlwyf Trawsfynydd, cafodd fywyd hir a chysegrodd lawer iawn o’i hamser i ddiogelu ac astudio barddoniaeth Gymraeg. Creodd nifer o lawysgrifau swmpus sy’n dangos ôl meddwl ysgolheigiaidd a diolch iddi hi mae rhai cerddi Cymraeg gan ferched eraill wedi goroesi.
Roedd hefyd yn fardd yn ei hawl ei hun. Gan tystiolaeth bod ei mam a’i modryb yn barddoni hefyd, gellid dweud ei bod yn perthyn i linach o feirdd benywaidd. Roedd hefyd yn perthyn i rwydweithiau ehangach o feirdd, ac roedd yn cael ei chydnabod fel cryn awdurdod ac fel athrawes farddol. Trafodwn rychwant o’i cherddi, gan gynnwys englyn hwyliog sy’n talu teyrnged i grythor a cherdd grefyddol ddwys sy’n dangos ei bod yn Gristion o argyhoeddiad ac yn realydd a allai grisialu hanfod y natur ddynol.