Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 76 – Angharad James

Llenyddiaeth

Mae crybwyll y cysylltiadau rhwng Angharad James a Marged Dafydd yn fodd i ni ystyried y ffaith mai dim ond yn ystod y degawdau diwethaf y mae’r byd academaidd Cymraeg wedi dechrau rhoi’r sylw dyledus i farddoniaeth Gymraeg gan ferched. Canolbwyntiwn wedyn ar waith Angharad James (1677- 1749), Cymraes amryddawn o Ddyffryn Nantlle a enillodd enw iddi’i hun fel telynores, bardd a chopïydd llawysgrifau. Cawn ein swyno gan y cynhesrwydd a’r diffuantrwydd sy’n nodweddu’i barddoniaeth hi, ac wrth ddarllen cerdd sy’n gofyn i gyfeilles ymweld â hi awgrymwn ei bod yn apelio’n fwy atom na chywydd ar yr un thema gan ei chyfoeswr enwog, Goronwy Owen. Ar ôl bwrw golwg ar gerdd hwyliog am briodas craffwn yn fanwl ar y farwnad deimladwy a gyfansoddodd yn sgil marwolaeth ei mab. Ond beth am ddirgelwch ‘Llyfr Coch Angharad James’?

RHANNWCH