Bydd dilynwyr Yr Hen Iaith yn gyfarwydd iawn â’r modd y mae Richard Wyn Jones yn agor pob pennod trwy sôn am ‘hogyn o Ohio’ sy’n dysgu ‘hogyn o sir Fôn’ am hanes llenyddiaeth ei iaith ei hun. Dyma bennod a recordiwyd yn Ohio, a hynny o flaen cynulleidfa fyw fel rhan o gynhadledd NAASWCH eleni.
Gan ein bod ni wedi gorffen y bennod ddiwethaf trwy sôn am ddiwedd oes Goronwy Owen yn Virginia, ailgydiwn yn y stori honno a thrafod yr unig gerdd a gyfansoddwyd gan y bardd enwog o Fôn yn America sydd wedi goroesi. Ond yn gyntaf rydym ni’n trafod y testunau Cymraeg cynharaf a ysgrifennwyd yn America – gan ddechrau â barddoniaeth gan forwyr o Gymru a gyfansoddwyd yn y Caribî. Dyma gyfle i ddysgu ffaith ysgubol: cyhoeddwyd llyfr Cymraeg yng Ngolgedd America dros hanner canrif cyn genedigaeth y wlad newydd honno, yr Unol Daleithiau. Nodwn hefyd nad ffaith yw’r chwedl boblogaidd am y Tywysog Madog, gan wybod yn iawn y bydd y datganiad yn siom i rai pobl.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes
Darllen Pellach:
Er mwyn dysgu am NAASWCH: https://www.naaswch.wales/saesneg-home
Ellis Pugh, Annerich i’r Cymry (Philadelphia, 1721): https://www.library.wales/discover-le… .
Jerry Hunter, ‘Y Gymraeg y tu allan i Gymru: Cipolwg ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Unol Daleithiau, 1838-65’, yn Angharad Naylor, Llion Pryderi Roberts a Dylan Foster Evans (goln.), Beth yw’r Gymraeg? (Caerdydd, 2023): https://www.uwp.co.uk/app/uploads/978… .
Gwyn Alf Williams, Madoc: The Making of a Myth (Rhydychen, 1987)
Pennod 4: ‘Yr Indiaid Cymreig: Y Cyfaill o’r Hen Wlad a Llên y Madogwys’ yn Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd [:] Cyd-destunoli’r Genhadaeth Gymreig i’r Tsalagi (Caerdydd, 2012).
Jerry Hunter, ‘Myth and Historiography: One Hundred and Sixty Years of Madog and the Madogwys’, yn Kristin A. Cook a Robert Lawson-Peebels (goln.), Writing the Americas, 1480-1826 (rhifyn arbennig: Yearbook of English Studies, 2016).