Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 74 – Hiraeth am Fôn: Goronwy Owen

Llenyddiaeth

Caiff Richard Wyn Jones ragor o hanes llenyddol ei fro enedigol yn y bennod hon wrth i ni drafod Goronwy Owen, bardd enwocaf Ynys Môn. Awgrymwn fod delfrydau llenyddol cylch y Morrisiaid i’w gweld ar eu mwyaf eglur ym marddoniaeth ‘Goronwy Ddu’, gan fod ei feistrolaeth ar y mesurau caeth wedi gwireddu i raddaeth health yr awydd i ailafael yn safonau’r beirdd Cymraeg canoloesol.

Ac wrth esbonio’r estheteg sy’n gyrru llawer iawn o’i waith, cynigiwn ddiffiniad o ‘Awgwstaniaeth’ (gyda golwg ar y llyfr a gyhoeddwyd gan Saunders Lewis yn 1924). Gwrthgyferbynnwn y cerddi cain a gyfansoddwyd ganddo sy’n mynegi’i hiraeth am Ynys Môn â’r ffaith na ddychwelodd i Gymru ar ôl iddo ymadael, gan yn gyntaf ddilyn gyrfa eglwysig yn Lloegr a diweddu’i oes yn America fel perchennog planhigyfa dybaco a phedwar o gaethweision. Trafodwn hefyd y dylanwad a gâi ei farddoniaeth ar fudiad eisteddfodol y ganrif ddilynol.

RHANNWCH