Yn bell o fod yn unffurf, roedd llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif yn faes ymrafael. Rydym ni’n archwilio’r canfyddiad hwnnw yn y bennod hon wrth gloi ein trafodaeth estynedig ar yr anterliwt a’i chyd-destun(au). A ninnau wedi ystyried ymosodiadau’r diwygwyr crefyddol ar y diwylliant traddodiadol hwn mewn pennod gynharach, dyma gyfle i weld yr anterliwtwyr yn taro’n ôl.
Craffwn ar ddwy anterliwt sy’n llwyfannu’r ymrafael crefyddol ac ideolegol hwn, Protestant a Neilltuwr gan Huw Jones o Langwm a Ffrewyll y Methodistiaid gan William Roberts, Llannor. Gwelwn ffyliaid y dramâu hyn yn lladd ar y Methodistiaid yn y modd mwyaf anllad a thrafodwn y ddeuoliaeth ddiddorol sy’n nodweddu’r testunau hyn. Ond wrth nodi bod yr anterliwtiau hyn yn hyrwyddo ideoleg eglwyswyr ceidwadol, sylwn hefyd fod rhai oddi mewn i’r gymuned honno yn poeni am natur y traddodiad.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes
Darllen Pellach:
A. Cynfael Lake (gol), Huw Jones o Langwm (Caernarfon: Gwasg Pantycleyn, 2009).
A Cynfael Lake (gol.), Ffrewyll y Methodistiaid William Roberts (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, yn Branwen Jarvis (gol.), A guide to Welsh literature c.1700-1800 (Caerdydd: Gwasg Prifsygol Cymru, 2000).
Jerry Hunter, Llywodraeth y Ffŵl: Gwylmabsant, Anterliwt a Chymundeb y Testun, llyfr sydd yn y wasg ar hyn o bryd (Gwasg Prifysgol Cymru).
Jerry Hunter, Safana (Talybont: Y Lolfa, 2021).