Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 71 – Ffŵl heb Ffiniau: Yr Anterliwt (rhan 3)

Llenyddiaeth

Cewch gyfle yn y bennod hon i gyfarfod â Gwagsaw, Syr Caswir, Ffowcyn Gnuchlyd a rhai o ffyliaid eraill yr anterliwtiau. Wrth graffu ar rôl y ffŵl, nodwn fod ganddo nifer o swyddogaethau mewn anterliwt draddodiadol. Yn gyntaf, mae’n agor y chwarae â’i gastiau doniol a’i eiriau dychanol er mwyn ceisio denu cynulleidfa.

Awn ati’n fwy athronyddol i awgrymu y gellid gweld gwaith y ffŵl ar ddechrau anterliwt yn nhermau troi torf afreolus gwylmabsant, marchnad neu ffair yn gynulleidfa sy’n fodlon aros yn eu hunfan a gwylio drama am ddwy neu dair awr. Ond os yw’n gorfodi trefn weithiau, mae’r ffŵl yn chwalu trefn hefyd, gan droi byd y cybydd â’i ben i waered. Wrth ystyried Hanes y Capten Ffactor gan Huw Jones o Langwm, sylwn fod y ffŵl Gwagsaw yn chwalu ffiniau’i stori a’i anterliwt ei hun, a gwelwn hon fel enghraifft o’r modd y gallai’r anterliwtwyr weithio’n greadigol oddi mewn i ffiniau’r traddodiad.

RHANNWCH