Trafodwn yn y bennod hon yr olaf o Bedair Cainc y Mabinogi, sef chwedl ‘Math fab Mathonwy’.
Edrychwn ar realiti hyll Cymru’r Oesau Canol a nodi bod aelodau o’i deulu’i hun yn gymaint o fygythiad i dywysog Cymreig na gelynion posibl y tu hwnt i ffiniau’i deyrnas. Er gwaethaf holl hud a lledrith y stori hon, awgrymwn y gellir ei dadansoddi yng nghyd-destun y realiti hyll hwnnw; mae Math fab Mathonwy yn arglwydd ar Wynedd, ac mae aelodau o’i lys ei hun, ei neiant Gwydion a Giflaethwy, yn creu trafferth sylweddol iddo.
Dyma stori dywyll sy’n archwilio tueddiadau gwaethaf y ddynoliaeth, gan gynnwys trais ar sail rhywedd. Yn y gainc hon hefyd y mae Lleu Llaw Gyffes a Blodeuwedd yn ymddangos, cymeriadau sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau lawer, er bod ailysgrifennu’r chwedl dreisgar hon a’i throi’n stori i blant yn beth hynod heriol!