Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 69 – Maswedd a Moeswers: Yr Anterliwt ( rhan 1)

Llenyddiaeth

Dyma’r gyntaf mewn cyfres o benodau sy’n archwilio gwahanol agweddau ar draddodiad yr anterliwt. Mae Jerry Hunter newydd orffen ysgrifennu llyfr am y pwnc ac “yn llosgi am y stwff `ma”, chwedl ei gyd-gyflwynydd, ac erbyn diwedd y bennod hon mae Richard Wyn Jones yntau’n “ysgwyd ei gynffon” gyda chyffro. Awn ati i ddiffinio’r anterliwt yn fras, gan egluro’i bod hi’n ddrama fydryddol gyda cherddoriaeth, canu, dawnsio a chwffio slap-stic yn greiddiol i berfformiadau a oedd yn debygol o barhau am ddwy neu dair awr. Pwysleisiwn fod agweddau traddodiadol iawn ar y testunau anterliwt niferus sydd wedi goroesi yn ogystal â’r straeon gwreiddiol a ddewiswyd gan y beirdd a’u lluniodd. Gan ystyried yr hiwmor masweddus sy’n ganolog i’r rhan fwyaf ohonynt, cyfeiriwn at ymosodiadau’r diwygwyr crefyddol ar yr anterliwt a’r wylmabsant a oedd yn gyd-destun ar gyfer y fath sioe.

RHANNWCH