Mae’r penodau diwethaf wedi canolbwyntio ar y Diwygiad Methodistiaidd a’r hyn a enillwyd yn sgil y trawsffurfiad crefyddol, cymdeithasol a llenyddol hwnnw, gan edrych yn benodol ar waith William Williams, Pantycelyn. Edrychwn yn y bennod hon ar yr hyn a gollwyd wrth i Ymneilltuaeth Gymreig wthio rhai agweddau traddodiadol ar ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru i’r cysgodion.
Awgrymwn y dylid ystyried llwyddiant yr emyn Methodistaidd ochr yn ochr â hen fathau o ganu crefyddol Cymraeg a nychodd oherwydd y llwyddiant hwnnw, gan gynnwys y canu plygain a’r halsing. I’r perwyl hwnnw, darllenwn ychydig o garol Nadolig hir gan Edward Samuel, bardd o Benmorfa, sir Gaernarfon, a fu farw yn 1748. Caiff yr wylmabsant sylw gennym wedyn, sef math o ŵyl gymunedol leol a oedd yn gyd-destun ar gyfer pob math o arferion gwerin a pherfformiadau diwylliannol, traddodiad yr aeth pregethwyr ymneilltuol ati’n egnïol i’w ladd.
—
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes
Darllen Pellach:
Geraint Jenkins, Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar 1530-1760 (Caerdydd, 1983).
E. G. (gol.), Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1991).