Rydym ni’n gorffen trafod yr emynydd mawr yn y bennod hon trwy ofyn cwestiwn a fydd o bosib yn annisgwyl i’r rhan fwyaf o’n dilynwyr, sef a oedd Pantycelyn yn fardd diofal? Dyfynnwn nifer o ysgolheigion o’r ugeinfed ganrif sy’n awgrymu hyn, gan gynnwys Saunders Lewis a ddywedodd nad oedd William Williams yn parchu geiriau o gwbl. Ac wrth ystyried perthynas y bardd â’r iaith Gymraeg awn ni i drafod ei berthynas â’r traddodiad barddol Cymraeg gan bwysleisio y byddai’n well ei gweld ar un olwg fel diffyg perthynas.
Nodwn wrth fynd heibio bod barddoniaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif yn amrywiol iawn a bod llawer o wahanol feirdd wrthi yn y cyfnod yn defnyddio’r hen fesurau caeth, er bod Pantycelyn wedi anwybyddu’r gynghanedd yn gyfan gwbl. A yw’n bosib felly dweud mai ef oedd y bardd modern cyntaf yng Nghymru?
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading:
Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927 [adargraffiad 1991]).