‘On one fair afternoon during a warm long golden summer’: The Visions of the Sleeping Bard (1)
Dyma ni’n dathlu recordio trigeinfed bennod y podlediad trwy drafod un o glasuron Cymraeg y cyfnod modern cynnar, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, llyfr a gyhoeddwyd gan Ellis Wynne yn 1703. Er bod y gwaith rhyfeddol hwn ar un wedd yn drosiad o lyfrau Saesneg a oedd yn eu tro yn gyfieithiadau o destun Sbaeneg, mae’n gyfansoddiad gwreiddiol iawn gan i’r awdur fynd ati i Gymreigio’i ddeunydd yn drylwyr o ran cynnwys a chyd-destun yn ogystal â’r iaith.
Eglwyswr a brenhinwr rhonc oedd Ellis Wynne, ond esgorodd ei geidwadaeth wleidyddiaeth a chrefyddol ar greadigaeth artistig a ymestynnodd ffiniau rhyddiaith Gymraeg gyda’i arddull fyrlymus a’i ddelweddau cofiadwy. Ac er bod y llyfr yn y pendraw yn waith moesol sy’n trafod pechod, mae’n gwneud hynny mewn modd sy’n rhyfeddol o ffraeth a doniol.