Trafodwn Drydedd Gainc y Mabinogi yn y bennod hon, chwedl ‘Manawydan fab Llŷr’, stori sy’n wrthbwynt i’r ceinciau eraill ac sydd â gwrthgyferbyniadau trawiadol mewnol. Yn hytrach na brwydrau mawr epig a champau arwrol, yr hyn a gawn yn y stori hon yw myfyrdodau ynghylch seiliau cymdeithas a hanfod gwareiddiad.
Mae’r testun hwn yn hollbwysig hefyd er mwyn deall mai cyfanwaith yw Pedair Cainc y Mabinogi. Yn dilyn y rhyfel apocalyptaidd a ddaw ar ddiwedd yr Ail Gainc, rydym ni’n dilyn dau o’r goroeswyr, Pryderi a Manawydan. Pan ddaw’r hud ar Ddyfed, rhaid i’r ddau gyfaill a’u gwragedd, Cigfa a Rhiannon, ddysgu byw o’r newydd, yn gyntaf trwy hela, ac wedyn trwy arddel crefftau, ac yn y diwedd trwy amaethu. Yn groes i Pryderi sydd wastad am dynnu’i gleddyf a datrys problemau yn yr hen ffordd dreisgar, mae Manawydan yn ennill yn y diwedd trwy ymbwyllo, osgoi tywallt gwaed a dilyn y gyfraith. Nid cryfder allanol sy’n gwneud Manawydan yn arwr, ond ei ddoethineb a’i gryfder mewnol.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes