Edrychwn yn y bennod hon ar lendyddiaeth Gymraeg ar ddwy ochr y rhwyg ideolegol ar ôl i’r rhyfeloedd rhwng y Senedd a’r Brenin ddod i ben. Cewch glywed Rolant Fychan yn cyfaddef na lwyddodd gyda’i ‘gleddyf coch’ i ladd bygythiadau radicalaidd i’r drefn yn ystod y rhyfeloedd, ac yntau’n ceisio gwneud fel awdur yr hyn y methodd ei wneud fel milwr. Ceir cipolwg hefyd ar ddrama Gymraeg sy’n dathlu adferiad yr hen drefn a ddaeth gydag adferiad y frenhiniaeth yn 1660, a’r bobl bellach yn rhydd o’r cyfreithiau Piwritanaidd a oedd wedi gwahardd y fath berfformiadau ac yn cael mwynhau canu a dawnsio eto. Ystyriwn hefyd waith llenyddol y genhedlaeth nesaf o Biwritaniaid, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg o lyfr Saesneg hynod ddylanwadol.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading:
Jerry Hunter, ‘The Red Sword, the Sickle and the Author’s Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 36 (2018)