A Richard Wyn Jones bellach ymysg ffans Morgan Llwyd ers y bennod ddiwethaf, dyma gyfle i drafod campwaith y cyfrinydd o awdur, ‘Llyfr y Tri Aderyn.’
Eglurwn yn gyntaf nad dyna yw teitl go iawn y llyfr hwn, a bod Morgan Llwyd ei hun wedi’i ddisgrifio fel ‘dirgelwch i rai i’w ddeall ac i eraill i’w watwar’; ac yntau’n Biwritan a oedd yn wahanol iawn i’r rhan fwyaf o’i gyd-Gymry, gwyddai’n iawn y byddai llawer yn ‘gwatwar’ y syniadau crefyddol newydd yr oedd yn eu cyflwyno iddynt. Eglurwn hefyd mai ‘dirgelwch’ yw ffordd yr awdur o ddweud mai alegori yw’r gwaith, gyda phob un o’r tri aderyn yn cynrychioli tri safbwynt; cawn yma fersiynau alegorïaidd o’r Eglwyswr ceidwadol, y Piwritan a grym bydol y Wladwriaeth. A dyma stori sy’n digwydd mewn dau fyd sy’n gorgyffwrdd, gydag adar Arch Noa yn symud o’r cyd-destun Beiblaidd hynafol hwnnw i’r byd cyfoes a gwlad a oedd wedi’i hysgwyd gan ryfeloedd cartref gwaedlyd yn ddiweddar.
Dyma gyfle hefyd i glywed am ddarn o ryddiaith a disgrifiwyd gan Saunders Lewis fel un ‘o’r darnau dwysaf o hunangofiant yn ein llenyddiaeth Gymraeg’. A pham bod Jerry Hunter mor hoff o’r Gigfan, cymeriad drwg y stori?!