Edrychwn yn y bennod hon ar ddetholiad o gerddi a gyfansoddwyd gan frenhinwyr yn ystod ‘rhyfeloedd cartref’ yr ail ganrif ar bymtheg. Gwelwn fod beirdd wedi addasu hen ddulliau a themâu er mwyn trafod datblygiadau cyfoes a oedd yn ysgwyd eu byd nhw.
Yn ddiddorol ddigon, mae’n bosibl awgrymu bod ceidwadaeth wleidyddol a chrefyddol wedi esgor ar arloesi celfyddydol hynod egnïol. Nodwn fod ffrydiau traddodiadol o ganu serch wedi’u haddasu hyd yn oed, wrth i ferch ganu am filwr seneddol a geisiodd ei denu pan oedd ei chariad i ffwrdd yn ymladd ym myddin y brenin. Ac mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys cerdd sy’n dychmygu anfon cath ar daith ar draws sir Feirionnydd gyda neges i filwyr dan warchae yng nghastell Harlech.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes
Darllen Pellach / Further Reading:
Hen Gerddi Gwleidyddol 1558-1660 (1901). [Golygydd di-enw ar ran Cymdeithas Llên Cymru].
Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu’r Ail Ganrif ar Bymtheg (1993).
Jerry Hunter, ‘The Red Sword, the Sickle, and the Author’s Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 36 (2018).