Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 51 – ‘Hoff Rediad ei Phriodi’: Cyngor Mam a Galar Gŵr

No Categories Found

Ar ôl nodi bod llwyth o ganu caeth Cymraeg o’r cyfnod ac enwi rhai o feirdd pwysig nad oes gennym amser i’w trafod, canolbwyntiwn ar ddwy gerdd gaeth o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg sy’n cynnig mewnwelediad i fywyd un teulu uchelwrol – Dafydd Llwyd a’i wraig Catrin Owen o’r Henblas, Llangristiolus, Môn.

Edrychwn yn gyntaf ar gywydd a gyfansoddwyd Dafydd pan fu farw Catrin yn 1602, cerdd sy’n mynegi galar y gŵr mewn modd personol a chofiadwy. Trafodwn wedyn gyfres o englynion a gyfansoddasai Catrin pan aeth eu mab nhw, Siôn i astudio yn Rhydychen. Mae’r gerdd hon yn cyflwyno cyngor y fam i’w mab, ac mae naws y cyngor yn rhyfeddol o debyg i’r hyn y gellid disgwyl i rieni ddweud wrth eu plant heddiw!

Ar ganol ei gwrs gradd yn Rhydychen oedd Siôn pan fu farw’i fam, ac felly mae’r ddwy gerdd gyda’i gilydd yn gyfle i ni weld y tu mewn i fywyd – a marwolaeth – y teulu hwn ac ystyried y modd yr oedd barddoniaeth yn gyfrwng iddynt fynegi’u teimladau.

RHANNWCH