Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 50 – Bardd Mewn Dau Fyd:Richard Hughes, Cefnllanfair

Llenyddiaeth

A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn.

Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines ei hun, ond yn ogystal â threulio amser yn y llys yn Llundain roedd hefyd yn ymweld yn gyson â’i hen fro, fel y tystia’i farddoniaeth.

Yn wir, mae’i waith yn rhyfeddol o amrywiol, yn cynnwys cerddi rhydd a cherddi caeth o ran mesur, ac, o ran themâu, yn cynnwys: cerddi serch cwrtais a cherddi sy’n trafod rhyw mewn modd masweddus iawn; cerddi am fywyd yn Llundain a cherddi am Ben Llŷn (gan gynnwys englyn sionc i gwch Ynys Enlli); cerddi sy’n talu teyrnged i unigolion a cherddi sy’n dychanu pobl eraill. Ac, ie, roedd trafod barddoniaeth Richard Hughes yn fodd i Richard Wyn Jones ddysgu hen air Cymraeg am dŷ bach – cachdy!

RHANNWCH