Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 5 – Chwedl Branwen

Llenyddiaeth

Awgrymwn yn y bennod hon ei bod hi’n bosib darllen yr Ail Gainc fel beirniadaeth gymdeithasol radicalaidd. Ar ddechrau Chwedl Branwen ferch Llŷr daw Matholwch, Brenin Iwerddon, i ‘erchi’ Branwen, gan feddwl y bydd y briodas frenhinol yn sylfaen i gynghrair gwleidyddol a all wneud y ddwy ynys yn ‘gadarnach’. Ond yn hytrach na heddwch a chynnydd, mae uniad Branwen a Matholwch yn esgor ar ryfel apocalyptaidd sy’n lladd y rhan fwyaf o boblogaeth Iwerddon a’r rhan fwyaf o’r fyddin fawr sy’n croesi’r môr i’w hachub. Tybed felly a oedd awdur y testun hwn yn ceisio awgrymu na ddylid defnyddio benywod fel nwyddau i’w ffeirio a bod perygl mewn priodas ddynastig? Agwedd hynod arall ar y gwaith llenyddol rhyfeddol hwn yw’r modd y gwelwn ddau fyd ar yr un pryd, gyda brawd Branwen, Bendigeidfran, ‘yn frenin coronog ar yr ynys hon’ – a ddisgrifir fel ‘Ynys y Cedyrn’ – ac hefyd yn arglwydd Cymreig a’i lys yn Harlech.

Mae’r naill yn mynd â ni’n ôl i oes aur chwedlonol cyn i genhedloedd eraill ddod i gipio’r Ynys oddi ar hynafiaid y Cymry, ac mae’r llall yn gadael i ni ddarllen y stori mewn cyd-destun Cymreig mwy uniongyrchol. Awgrymwn hefyd fod diwedd y gainc hon yn ymdriniaeth lenyddol â PTSD milwyr sydd wedi dioddef mewn rhyfel.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes

Darllen pellach:
– Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980)

RHANNWCH