Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 46 – Llenyddiaeth Gymraeg yr Eidal a Gwasg Anghyfreithlon yng Nghymru

Llenyddiaeth

Gan ein bod ni wedi edrych ar y berthynas rhwng dyneiddiaeth, Protestaniaeth a’r iaith Gymraeg yn ddiweddar, dyma gyfle i ystyried ochr arall ceiniog y Diwygiad.

Trafodwn ychydig o lenyddiaeth Gymraeg Gatholig yr unfed ganrif ar bymtheg yn y bennod, gan ganolbwyntio ar ddau gyfaill rhyfeddol, Morris Clynnog a Gruffudd Robert. Bu’n rhaid i’r ddau ddyn yma o ogledd-orllewin Cymru ffoi i’r cyfandir oherwydd eu crefydd pan ddaeth y frenhines Brotestannaidd Elizabeth I i’r orsedd.

Cyhoeddi llyfrau Cymraeg ym Milan, cwffio rhwng y Cymry a’r Saeson yn y Coleg Seisnig yn Rhufain, cynhyrchu llyfr Cymraeg Catholig ar wasg anghyfreithlon mewn ogof yng Nghymru – roedd yr alltudion Cymreig hyn yn gysylltiedig â rhai o’r penodau mwyaf anhygoel yn hanes yr iaith Gymraeg.

RHANNWCH