Gwelwyd yn y bennod ddiwethaf fod y dyneiddiwr William Salesbury yn talu teyrned i’r bardd Gruffudd Hiraethog yn ei ragymadrodd i’r llyfr Oll Synnwyr Pen Cymro. Edrychwn ar ochr arall y geiniog yn y bennod hon, a hynny wrth i ni ddarllen cywydd o fawl a gyfansoddodd Gruffudd Hiraethog i’r dyneiddiwr.
Er ein bod ni weithiau yn gweld y beirdd Cymraeg proffesiynol a’r dyneiddwyr fel dwy garfan o Gymry llengar a oedd yn cystadlu ynghylchs dyfodol yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth, mae’r berthynas gyfeillgar ac adeiladol rhwng y ddau hyn yn cynnig golwg eithaf gwahanol. Gwelwn y bardd yn addasu hen gofensiynau’r canu mawl er mwyn canmol yr addysg a gafodd y dyneiddiwr yn Rhydychen, gan gynnig enghraifft wych o’r modd y mae’r hen a’r newydd yn ymgymysgu yn llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg.