Trafodwn destun hynod gyffrous yn y bennod hon, sef rhagymadrodd William Salesbury i lyfr a gyhoeddwyd yn 1547, Oll Synnwyr Pen. Awgrymwn y gellid gweld y rhagymadrodd hwn fel maniffesto dyneiddiol Cymraeg, galwad sy’n cyflwyno agenda er mwyn diogelu a mireinio’r iaith.
Defnyddiodd William Salesbury yr addysg a gafodd yn Rydychen a’i allu fel awdur i ddeffro darllenwyr a’u gwneud yn ymwybodol o’r angen: roedd yn rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn iaith dysg, yn iaith y gallai drafod unrhyw agwedd ar gymdeithas a meddwl, yn gyfrwng a allai drosglwyddo unrhyw fath o wybodaeth.