Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 38 – Alis Wen

Llenyddiaeth

Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5)

Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n debyg iawn mai ei thad, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan oedd ei hathro barddol, a gwelwn fod ei pherthynas ungryw â’i thad yn bwnc dan sylw yn rhai o’i cherddi. Dyma lais barddol benywaidd prin sy’n amlygu teimladau gonest Cymraes am gariad, priodas a diswyliadau cymdeithasol. Er bod cymdeithas Cymru’r cyfnod yn ormesol o batrïarchaidd, gwelwn Alis yn protestio ac yn dymuno dilyn ei chalon yn hytrach nag ufuddhau i’r disgwyliadau hynny. Yn ogystal â mynegi’i barn a’i theimladau mewn modd di-flewyn-ar-dafod, mae’n gwneud hynny mewn modd rhyfeddol o ffraeth hefyd.

RHANNWCH