Mae’n hen bryd i ni ganolbwyntio ar lenyddiaeth gan Gymraes. Gan ein bod wedi dechrau trafod cyfnod y cywydd, rydym ni’n neidio ymlaen ryw ganrif ac ychydig o oes Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon er mwyn ystyried gwaith Gwerful Mechain, bardd benywaidd a oedd yn byw ac yn cyfansoddi yn ystod ail hanner y 15fed ganrif.
Mae hefyd yn fodd i ni ystyried y modd y mae ‘canonau’ llenyddol Cymraeg – megis y gyfrol ddylanwadol honno, Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg – wedi anwybyddu gwaith gan feirdd benywaidd fel Gwerful Mechain. Nodwn hefyd fod Gwerful wedi’i chofio gan rai fel ‘bardd masweddus’ yn bennaf – ysbrydebu anffodus – gan fod ei barddoniaeth yn mynd i’r afael â rhychwant o themâu, gan gynnwys crefydd. Edrychwn yn weddol fanwl ar ei chywydd gorchestol i’r Iesu yn ei ddioddefaint. Cawn gyfle i ystyried barddoniaeth o fath gwahanol iawn ganddi, gwaith sy’n trafod rhyw o safbwynt y fenyw ac yn dychanu canu serch y beirdd gwrywaidd.