Dywed Richard Wyn Jones rywbeth yn y bennod hon sydd, er ei fod yn sylw ffwrdd-a-hi, efallai’n dweud mwy am afiaith y farddoniaeth hon na holl draethu’i gyd-gyflwynydd. Dywed y byddai wedi astudio’r Gymraeg yn y brifysgol yn hytrach na Gwleidyddiaeth Ryngwladol, o bosib, pe bai wedi cael darllen y cerddi hyn yr ysgol! Dyna ddigon i awgrymu bod y cerddi dychanol doniol hyn gan Ddafydd ap Gwilym yn eang iawn eu hapêl.
Edrychwn ar hunan-ddychan Dafydd yn y cywyddau ‘Trafferth mewn Tafarn’ a ‘Merched Llanbadarn’. Trafodwn hefyd y gerdd a gafodd ei sensro am flynyddoedd lawer, sef ‘Cywydd y Gal’. Ac ystyriwn ei ymddiddan â’r ‘Brawd Llwyd’, cerdd ryfeddol sy’n cyflwyno fersiwn syfrdanol o fodern o Gristnogaeth ac sy’n amddiffyn yr union fath o ganu serch a gysylltir â Dafydd ap Gwilym. Mae hefyd yn gerdd sy’n tystio i’r ffaith bod celf o safon uchel yn gallu dylanwadu ar ymddygiad pobl.