Rydym ni’n parhau i drafod ffresni rhyfeddol barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, gan bwysleisio bod newydd-deb ei gyfansoddiadau wedi’i greu gyda deunydd crai traddodiadol i ryw raddau. Ystyriwn ychydig o ganu serch Dafydd, gan ddechrau â’r cywydd ‘Morfudd fel yr Haul’, cyn craffu ar y modd y mae dwy thema fawr, serch a natur, wedi’u plethu ynghyd yn ei waith. Trafodwn yr ‘oed yn y coed’, a’r bardd yn cyfarfod â’i gariad ym myd natur yn bell o hualau cymdeithas (ac yn bell o ‘eiddig’ ar adegau, pan fydd ei gariad yn wraig briod!). Er nad ydym yn ateb y cwestiwn astrus hwn, rydym yn ei godi o leiaf: a oedd y cariadon sy’n ganolbwynt i gynifer o gywyddau Dafydd yn ferched go iawn? Cewch glywed am y llatai hefyd, y negesydd serch y mae’r bardd yn ei gomisynu.