Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 23 – Seintiau a Phechaduriaid

Llenyddiaeth

Er ein bod ni wedi crybwyll y ffaith bod cymdeithas y Gymru ganoloesol yn drywadl Gristnogol, ac er ein bod wedi nodi agweddau creffyddol ar rai testunau llenyddol wrth fynd heibio, yn y bennod hon rydym ni’n canolbwyntio ar lenyddiaeth Gristnogol – ac yn bennaf, gwahanol draddodiadau’n ymwneud â’r seintiau Cymreig. 

Nodwn fod y Cymry yn weddol unigryw yn eu hoffter o lunio ‘bonedd’ neu ‘achau’ seintiau (amlygiad canoloesol o’r awydd Cymreig oesol i holi i bwy mae rhywun yn perthyn, efallai!). Trafodwn draddodiad llenyddol storïol poblogaidd hefyd, ‘Bucheddau Seintiau’, cofiannau neu fywgraffiadau. Edrychwn ar Fuchedd Dewi a thrafod rôl llenyddiaeth yn y datblygiad a wnaeth ef yn nawddsant Cymru. Cewch glywed hanes cyffrous am forwyn o’r enwi Gwenfrewi wrth iddi arddel ‘strategaeth risg-uchel’ (chwedl Richard Wyn Jones) er mwyn ceisio dianc rhag y brenin cas, Caradog, a hanes y ffynnon sy’n dwyn enw’r santes honno. Cawn gyfle i ystyried canu mawl i’r seintiau, gan graffu ar un awdl sy’n dyrchafu Dewi uwchlaw holl seintiau eraill y byd.

RHANNWCH