Cawn drafod un o gerddi enwocaf yr iaith yn y bennod hon, cerdd sy’n gysylltiedig ag un o drobwyntiau mwyaf yn hanes Cymru. Wrth i ni ddadansoddi Marwnad Llywelyn, ystyriwn y modd y gall llenyddiaeth fod yn danwydd i ddychymyg cenedl, a’r dychymyg hwnnw’n allweddol i allu cenedl i oroesi ar ôl iddi gael ei goresgyn. Trafodwn yr hyn a wyddys am fywyd y dyn a gyfansoddodd y gerdd eiconig hon hefyd, sef Gruffydd ab yr Ynad Coch. Awgryma’r dystiolaeth mai bardd crefyddol ydoedd yn anad dim, ac a yw hynny’n fodd i ni gyd-destunoli llawer o ddelweddaeth y farwnad? A yw’n mynd yn rhy bell i ddweud bod Gruffydd yn cymharu Llywelyn â nab llai na Iesu Grist ei hun? Ac a yw gwedd ar hanes y bardd hwn – ffaith hanesyddol sy’n syfrdanol o wahanol i’r modd y mae llawer o Gymry yn canfod y berthynas rhwng Gruffydd a Llywelyn – hefyd yn fodd i egluro angerdd anghyffredin y gerdd bwerus hon?