Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 2 – Y Llawysgrif Gymraeg gyntaf (sydd wedi goroesi!)

Llenyddiaeth

Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, hanes ysgrifennu Cymraeg a natur llawysgrifau:

Dechreua’r bennod hon drwy ystyried rhai o’r enghreifftiau cynharaf o ysgrifen Gymraeg sydd wedi goroesi, a nodi bod yr iaith wastad wedi bod yn gyfrwng i drafod dysg o wahanol fathau, gan gynnwys gwyddoniaeth. Trafodwn dechnoleg ysgrifennu’r cyfnod canoloesol, gan bwysleisio bod y llawysgrifau’n bethau prin, bregus a gwerthfawr. Wedyn, rydym ni’n oedi cryn dipyn ynghylch Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif Gymraeg – h.y., yn gyfan gwbl Gymraeg o ran iaith – sydd wedi goroesi. Pwy oedd y mynach a aeth ati i gynllunio a chreu casgliad o farddoniaeth Gymraeg, llawer ohoni’n gysylltiedig â’r bardd Myrddin chwedlonnol a roes ei enw i’r lle, yn ôl y stori? A yw’n bosibl dweud bod Myrddin yn ymryson â’r bardd chwedlonol arall hwnnw, Taliesin, am oruchafiaeth yn y traddodiad llenyddol? A beth am y llawysgrif bwysig honno â gyslltir ag ef, sef Llyfr Taliesin? Pam fod cymaint o’r farddoniaeth Gymraeg hon yn broffwydol, a beth yw dehongliad ‘pobl Pen’mynydd’ yn sir Fôn o’r Mab Darogan?

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes

Darllen pellach:
– Ifor Williams, The Beginnings of Welsh Poetry (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)
– A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfryddin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)
– Marged Haycock (gol. a chyf.), Legendary Poems from the Book of Taliesin (Aberystwyth: Cyhoeddiadau CMCS, 2007)
– Patrick Sims-Williams, ‘The uses of writing in early medieval Wales’, yn Huw Pryce (gol.), Literacy in Medieval Celtic Societies (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1998)
– Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2002)

RHANNWCH