Yn y bennod hon, trafodwn chwedl gwbl ryfeddol sy’n llunio fersiwn unigryw o fyd arwrol Arthur er mwyn tynnu sylw at ddiffygion gwleidyddol y byd go iawn. Y Gymru ganoloesol yw’r byd go iawn hwnnw, ac mae ymrafael rhwng tywysog a’i frawd yn bygwth heddwch y deyrnas. Mae’r negesydd Rhonabwy yn ceisio’i orau i helpu ond mae’n syrthio i gysgu – mewn tŷ sy’n ysglyfaethus o fudr! – a thrwy gyfrwng ei freuddwyd mae’n teithio o’r presennol i’r gorffennol Arthuraidd. Mae’n rhaid i’r arweinydd chwedlonol ei hun ddysgu gwersi am ryfel a heddwch hefyd, ac mae’n gwneud hynny wrth chwarae gwyddbwyll. Ond nid ‘chess’ oedd gwyddbwyll i’r Cymry canoloesol, a nid yw’r stori hon yn debyg i unrhyw stori arall chwaith! Cewch atebion i gwestiynau annisgwyl hefyd, fel pam bod y dyn bychan hwnnw o’r presennol, Rhonabwy, yn gwneud i Arthur grio?