Trafodwn y chwedl ‘Ystoria Geraint fab Erbin’ yn y bennod hon gan ystyried ei pherthynas â cherdd storïol y bardd Ffrangeg Chrétien de Troyes. A yw’n bosibl mai trosiad o’r testun Ffrangeg yw’r chwedl Gymraeg, mewn gwirionedd? A yw’n iawn cynnwys ‘Geraint’ ymysg y ‘chwedlau brodorol’? Awgrymwn fod awdur Cymraeg wedi cymryd stori Chrétien a’i gwisgo mewn gwisg Gymreig. Wedi’r cwbl, mae toreth o enwau Cymraeg yma, nifer ohonynt â gwreiddiau dwfn iawn yn chwedloniaeth draddodiadol Cymru, gan gynnwys Geraint ei hun. Ceir golwg hynod ddiddorol ar dde-ddwyrain Cymru hefyd, gan gynnwys Caerdyf, sef Caerdydd. A sôn am wisg, mae’r disgrifiad o ddillad Geraint pan mae’n ymddangos gyntaf yn y sori yn wych. Yn ogystal â’r holl farwedd, dewrder, sifalri ac anturiaeth, mae’r chwedl hon yn cynnig trafodaeth feirniadol ynglŷn â’r union fyd Arthuraidd y mae’n ei ddyrchafu.