Rydym ni’n gorffen trafod y chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ yn y bennod hon, gan ddechrau gyda’r chwech arwr y mae Arthur yn eu dewis i helpu Culhwch gael hyd i ferch Ysbaddaden Pencawr. (Ac felly, ynghyd â’r darpar briodfab ei hun, dyma fersiwn Cymraeg canoloesol o’r ‘Saith Samauri’ neu’r ‘Magnificent Seven’!)
Mae Olwen yn ymddangos o’r diwedd – a chawn ddisgrifiad trawiadol a chofiadwy ohoni – ac wedyn mae’n rhaid i’r saith wynebu’r Pencawr ei hun. Ac mae’n rhaid iddynt gyflawni llwyth o wahanol dasgiau – pob un yn naturiaeth ynddi’i hun – cyn y câi Culhwch briodi Olwen, ac byddai’n rhaid troi at Arthur a’i arwyr am gymorth eto er mwyn eu cyflawni. Ceir yma anturiaethau lu, felly, ond ceir hefyd hiwmor grotésg a myfyrdodau dwys am y berthynas rhwng pobl a byd natur.