Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 11 – Y Traddodiad Arthuraidd: Rhodd fwyaf Cymru i’r Byd?

Llenyddiaeth

O ystyried holl gynnyrch diwylliannol yr iaith Gymraeg trwy’r canrifoedd, beth, tybed, a gafodd y dylanwad mwyaf ar ddiwylliannau ieithoedd eraill a gwledydd eraill? Awgrymwn yn y bennod hon mai straeon am y brenin arwrol Arthur yw’r ateb.

Erbyn diwedd yr Oesau Canol, byddai’r chwedloniaeth hon wedi teithio ar draws Ewrop ac esgor ar lenyddiaeth Arthuraidd mewn llawer o wahanol ieithoedd, ac mae’r daith ryfeddol hon yn parhau heddiw, gan gofio’r holl ffilmiau Holywoodaidd, nofelau ffantasi a gemau cyfrifiadorol sy’n dangos ddylanwad y traddodiad cyfoethog hwn. Ond dechreuodd y cyfan yma yng Nghymru – neu, hwyrach, dechreuodd yn yr iaith Gymraeg (gan gofio nad ffiniau presennol Cymru oedd ffiniau’r iaith Gymraeg yn yr Oesau Canol cynnar).

A oedd Arthur yn gymeriad hanesyddol ar y dechrau? Beth yw’r enghreifftiau cynharaf o lenyddiaeth Arthuraidd Gymraeg sydd wedi goroesi? Trafodwn y cwestiynau hyn, ac wrth fynd i’r afael â gwreiddiau’r traddodiad Arthuraidd edrychwn ar rai o’n hoff drioedd, gan gynnwys ‘Tri Gwrfeichiad Ynys Prydain’, a gyfieithir gan Rachel Bromwich fel ‘The Three Powerful Swineherds of the Island of Britain’!

RHANNWCH