Nod y cynllun hwn yw rhoi hwb i Benceirddiaid y dyfodol. Trwy gymysgedd o gefnogaeth unigol a gweithdai dwys, y gobaith yw y bydd hyder y beirdd yn y grefft o gynganeddu yn cynyddu, ac y byddant yn meithrin eu mynegiant personol eu hunain o fewn iaith Cerdd Dafod.
Bydd ein beirdd yn mynd ymlaen i eirioli dros y grefft arbennig hon, gan blannu hadau cynghanedd ymysg grwpiau a chymdeithasau eraill. Gobeithiwn, felly, y bydd cynllun Pencerdd yn meithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru.
Mae’r rhaglen blwyddyn o hyd yn rhad ac am ddim, a bydd yn rhedeg rhwng Mawrth 2024 a Mawrth 2025.
Fel man cychwyn i’ch ysbrydoli, dyma gyfres o wyth o wersi cynganeddu rhad ac am ddim i ddechreuwyr gan Aneirin Karadog.