Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pen-blwydd 10 mlynedd Saith Seren | Saith Seren 10 year Anniversary

Cymuned

Neges Chris Evans Cadeirydd “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at 2022, gan y bydd hi’n flwyddyn nodedig i ni. Rwy’n mawr obeithio ein bod wedi gweld diwedd Covid ac yn gallu dod yn ôl i normal o’r diwedd ar ôl dwy flynedd heriol iawn! Hon hefyd fydd y flwyddyn y byddwn yn prynu’r adeilad, ac yn sicrhau ein dyfodol hirdymor. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r bobl hynny sydd wedi ein cefnogi dros y degawd, i’r rhai sy’n ymweld yn rheolaidd, ac i’r rhai sydd wedi ein cefnogi’n ariannol. Rydym yn benderfynol o ad-dalu eu teyrngarwch a’u ffydd ynom a pharhau i ddarparu man lle gall pobl ddod i gymdeithasu ac i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant hyfryd. Fel y dywedai Dafydd Iwan, i ddyfynnu ei gân enwog, rydyn ni ‘Yma o Hyd’!

RHANNWCH