Cartref digidol diwylliant Cymru.

Papurau Bro: Y Newyddiaduraeth Fwyaf Cynhwysol yn y Byd?

Llenyddiaeth

Mae gan gario clecs enw drwg, gan taw sibrydion a rholio llygaid yw’r ffordd mae’n cael ei weld, ac mae’n cael ei ddiystyru fel rhywbeth dibwys neu greulon, rhywbeth i’w anwybyddu yn hytrach na’i ddeall. Cawn glywed ei fod yn amhroffesiynol, ac nad yw’n haeddu sylw. Ond, yn y bôn, mae cario clecs yn hanfodol, yn ddull o gysylltu gan gymuned. Yr unig ffordd all cymuned drosglwyddo gwybodaeth, dathlu llwyddiannau, a dod at ei gilydd mewn cyfnodau anodd. Ymhell cyn i newyddiaduraeth gael gwedd a diwyg ffurfiol, roedd pobl yn lledaenu newyddion am bwy oedd wedi geni baban, pwy oedd wedi marw, pwy oedd yn cael trafferthion, pwy oedd yn dawel athrylithgar. Rho bapurau bro urddas i gario clecs gan roi lle i straeon bob dydd pobl gyffredin i gael eu gwerthfawrogi.

Papur Bro Wilia yw fy mhapur bro lleol. Mae darllen Wilia yn rhan annatod o fy nhrefn misol, sgimio drwy ei dudalennau yn trio dod o hyd i lun ohona i, fy ffrindiau neu ambell wyneb cyfarwydd o fy nghymuned. Cyn i mi ymwneud gyda Wilia, roeddwn ynddo. Mewn llun bach yn y gornel, paragraff byr, canmoliaeth garedig am ddod yn ail mewn cystadleuaeth siarad cyhoeddus lleol. Doedd o fyth yn syfrdanol, ond roedd Wilia yn trin llwyddiannau bychan fel pe baent werth eu cofio. Mewn cenedl wedi’i choloneiddio, ag iaith leiafrifol, lle rydyn ni’n clywed dro ar ôl tro bod ein straeon yn ddibwys, ac nad yw siarad Cymraeg yn gyhoeddus werth ei ysgrifennu amdano o gwbl, mae’r papur bro yn hanfodol. O’r Llyfrau gleision i’r Welsh Not, mae cenedlaethau wedi teimlo cywilydd, cywilydd sy’n parhau. Cynigia bapurau bro rhywbeth sydd yn dawel bach yn lleihau’r teimlad nad yw’n straeon werth eu hadrodd, hyd yn oed os yw hyn drwy luniau sy’n codi embaras wedi’u hargraffu mewn papur sy’n mynd yn deneuach gyda phob rhifyn. Mae gan Wilia ffordd arbennig o ddathlu’r llwyddiannau bychan, y math sy’n annhebygol o fynd tu hwnt i ffiniau neuadd ysgol neu ganolfan gymunedol, ac yn eu hadrodd mewn ffordd sy’n gwneud i’n llwyddiannau deimlo yn werthfawr. Yn galluogi i blant brofi’r cyffro o allu dweud “Mam, dwi yn y papur!!”.

Ceir lle i alaru ac i gofio mewn papurau bro. I nodi marwolaeth pobl na fyddai’n cael eu hysgrifennu amdanynt yn unman arall, ond y byddai eu habsenoldeb yn golled ddofn mewn tafarndai, capeli ac yn y gymuned. Yn blatfform sy’n adrodd ar glybiau ar ôl ysgol newydd ar yr un lefel a cholled. Mae’r cydbwysedd unigryw yna, rhwng y llawenydd a’r tristwch yn bwrpasol, yn adlewyrchu’r ffordd mae cymuned yn gwneud synnwyr o fywyd.

“Ystyriwn gynhwysiant i olygu mynediad at feysydd elitaidd uchel eu parch megis ystafelloedd newyddion cenedlaethol, prif blatfformau a cholofnwyr enwog… ond mae cynhwysiant hefyd yn golygu cydnabod a gwerthfawrogi eich bro heddiw, teimlo bod ei fywyd yn haeddu cael ei gofnodi heb orfod cael stori eithriadol, drawmatig neu ddadleuol. “

Mirain Owen - Writer

Dechreuais gynorthwyo Wilia gyda’u cyfryngau cymdeithasol yn ddamweiniol, mewn cyfarfod lle’r oedd dyfodol y papur yn ansicr. Allen i ddim dychmygu fy nyddiau Sadwrn heb y mwynhad o fflicio drwy’r papur a llithro i mewn i’r Bychanfyd Cymraeg. Tudalennau o ddigwyddiadau Cymraeg, siaradwyr Cymraeg, bywyd Cymraeg. O ddarllen y papur, mae Abertawe yn teimlo fel dinas uniaith Gymraeg. Dwi byth yn stopio i gwestiynu ai delwedd ddelfrydol, afrealistig yw hon gan fod y bychanfyd Cymraeg yn teimlo’n real, gan ei fod yn real. Efallai nad yw’n ddarlun llawn o Abertawe, ond yn ddarlun sy’n hanfodol bwysig i’w gofnodi. Mae cysur i’w gael o ddarllen bod bywyd Cymraeg ar gael yn Abertawe, er nad yw’n ddarlun mor weladwy o ddydd i ddydd. Newyddiaduraeth a ffordd o fyw sydd mor danddaearol fel nad yw’r mwyafrif yn ymwybodol o’i fodolaeth, ei wendid a’i gryfder.

Hud a lledrith papurau bro yw’r ffaith eu bod wedi seilio ar angerdd, wedi’u rhedeg gan wirfoddolwyr, eu cynnal gan bobl sydd eisoes yn rhy brysur ac yn cael cymhelliant gan ymdeimlad o gyfrifoldeb. Cyfrifoldeb i le, i bobl, i gof. Mewn sawl ffordd, mae papurau bro yn fath o ddarlledu datganoledig, er nad yw darlledu wedi datganoli i Gaerdydd eto. Mewn absenoldeb grymoedd ffurfiol, mae cymunedau Cymru wedi cymryd rheolaeth o’u newyddiaduraeth, gan greu rhywbeth hollol ddatganoledig, yn cael ei greu a rheoli yn lleol, wedi’i arwain gan wirfoddolwyr, yn ddemocrataidd ac yn atebol i’r bobl sydd yn y straeon. Mewn diwydiant sydd bellach yn gwobrwyo cyflymder a phoblogrwydd, mae papurau bro yn mynnu arafu. Yn mynnu bod enwau wedi sillafu yn gywir, bod y manylion yn gywir am fod siawns go-lew o weld yr unigolion yn y Co-op fory. Yr agosatrwydd yna sy’n gwneud papurau bro, yn fy marn i, y ffurf fwyaf cynhwysol o newyddiaduraeth.

Yn aml, ystyriwn gynhwysiant i olygu mynediad at feysydd elitaidd uchel eu parch megis ystafelloedd newyddion cenedlaethol, prif blatfformau a cholofnwyr enwog. Wrth gwrs bod pwysigrwydd i’r pethau yma, ond mae cynhwysiant hefyd yn golygu cydnabod a gwerthfawrogi eich bro heddiw, teimlo bod ei fywyd yn haeddu cael ei gofnodi heb orfod cael stori eithriadol, drawmatig neu ddadleuol.

Pan fyddwn yn trafod dyfodol newyddiaduraeth yng Nghymru, dylid trafod y papurau yma. Nid fel relics hen ffasiwn na man i hyfforddi at newyddiaduraeth “go iawn”, ond fel model o’r hyn all newyddiaduraeth fod, pan fo’n wreiddiol, yn perthyn i bobl ac yn atebol. Mae’n profi nad oes rhaid i ni weiddi i gael ein straeon wedi’u hadrodd. Gallwn gario clecs mewn modd cadarnhaol, caredig a phwrpasol.

Mae cario clecs yn cadw cymunedau’n fyw gan ei fod yn cydnabod bod pobl yn naturiol yn meddwl am ei gilydd. Mae papurau bro yn ffurfioli’r gofal hwnnw. Maent yn sicrhau bod llwyddiant plentyn, colli cymydog, clwb newydd, blwyddyn anodd, chwerthin a phob peth rhyngddynt yn perthyn i rhywle. Mewn byd sydd mor aml yn dweud wrth leiafrifoedd bod eu straeon yn rhy fach, yn rhy leol, yn rhy arferol i fod gwerth eu nodi, efallai mai dyna’r peth mwyaf radical gall newyddiaduraeth ei wneud.

Mae Mirain yn fyfyrwraig y gyfraith, yn wreiddiol o Abertawe ac yn awr yn astudio ym Manceinion. Gallwch ddilyn hi ar Instagram.

RHANNWCH