“Ar ôl treulio pythefnos o’r lockdown yn gwrando ar Gorky’s, penderfynom ni i neud cover o’r gân hon oddi ar yr album o’r un enw. Hoffwn ymestyn ein diolchiadau i holl aelodau Gorky’s am fod yn fand mor anhygoel o ysbrydoledig a dylanwadol.”
Cynhyrchwyd a Recordiwyd gan Papur Wal yn ‘The Laurels’, Caerdydd.
Pob offeryn a llais gan Ianto Gruffydd a Gwion Ifor, ac eithrio drymiau ac offerynnau taro gan Kris Jenkins.
Cymysgwyd gan Kris Jenkins.