Yn dilyn gohirio Owl at Home, wedi’i seilio ar y llyfr â darluniau i blant gan Arnold Lobel, rydym wedi creu cyfres o fideos byrion gyda George Williams, yr actor a’r cerddor oedd i fod i ymddangos yn y sioe ym mis Mai 2020.
Mewn ffrwd newydd o waith o’r enw George at Home, byddwn yn bywiogi straeon Owl at Home i chi gael blas arnyn nhw gyda’ch gilydd fel teulu. Ia-hŵ!
Bydd Owl at Home yn ei hôl ar daith yn 2021
Ymgofrestrwch i’n e-newyddlen yn theatriolo.com i weld rhagor o ddiweddariadau
Testun, celf, clawr a chopi o lyfr o Owl at Home gan Arnold Lobel
Darluniwyd gan: Arnold Lobel HAWLFRAINT (C) 1975 GAN ARNOLD LOBEL.
Defnyddir gyda chaniatâd HarperCollins Publishers