Drama sy’n amlygu un o agweddau positif byw drwy bandemig byd-eang, gan y perfformiwr, coreograffydd a’r cyfarwyddwr o Orllewin Cymru, Rhys Miles Thomas. Cyn COVID-19 ‘roedd anabledd John yn golygu ei fod yn byw drwy gyfnod clo parhaol ac unig. Ond pan mae’r byd cyfan yn cael ei orfodi i aros adref, mae’n darganfod rhywfaint o ryddid wrth i ragor o bobl ddechrau estyn allan yn ystod eu caethwied eu hunain. Cynhyrchwyd drwy gynllun Ffolio Ffilm Cymru gyda BBC Arts, BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru.