Cartref digidol diwylliant Cymru.

Os mêts, mêts…

Llenyddiaeth

Mae cael ffrindiau da mor werthfawr ag erioed yn y byd sydd ohoni ond sut mae bod yn ffrind da? A sut mae adnabod ffrind da? Dyma bwyntiau pwysig gan #LyshCymru i gnou cil arnyn nhw …

Naw wfft i ffrind fel hyn:

Rhywun sy’n siarad amdanat y tu ôl i dy gefn, neu’n rhannu dy gyfrinachau gydag eraill.
Rhywun sy’n rhoi pwysau arnat i wneud pethau sy’n groes i dy natur ac sy’n dy orfodi i wneud penderfyniadau gwael.
Rhywun sy’n dy feirniadu drwy’r amser ac yn gwneud i ti deimlo’n isel am dy hun.
Rhywun sydd yn mynnu cael dy gefnogaeth di bob amser ond sydd ddigon pell pan fo’r esgid ar y droed arall.
Rhywun sydd ond yn siarad â ti pan maen nhw eisiau rhywbeth gennyt.
NAW WFFT IDDYN NHW!

I wneud ffrindiau newydd:
Bydd garedig a bydd yn ti dy hun.
Bydd yn glust i wrando.
Siarada’n glên.
Bydd ystyriol a pharchus.
Bydd ddibynadwy a gonest.
Bydd yr un i annog a lledaenu’r cariad gyda gweithredoedd hapus.
Ond yn bwysicach fyth – gwna’n siŵr bod gen ti ffrindiau fel hyn hefyd.

Beth mae cyfeillgarwch yn ei olygu i ddilynwyr Instagram Lysh Cymru?

Ewch i wefan Lysh Cymru i weld!

RHANNWCH