‘Mae’n gwbl hanfodol ffilmio rhyfel,’ meddai Sergei Loznitsa, gwneuthurwr ffilm amlycaf Wcráin heddiw. ‘Rhaid ffilmio, ffilmio, ffilmio er mwyn sicrhau bod digon o ddeunydd ar gael … rhaid dogfennu’r ffeithiau yn ddiflino: hanesyddiaeth uniongyrchol yw hyn.’
Mae rhifyn Gwanwyn 2022 O’r Pedwar Gwynt yn rhoi sylw i waith diflino Loznitsa yn mynd trwy’r archifau ac yn cofnodi dinistr – o Donbass i’r ffilm ddiweddaraf sydd ganddo ar y gweill, The Natural History of Destruction. Ystyrir yn ogystal ymdrechion un dyn ym Mharis i gysegru ei fywyd i lunio gwyddoniadur rhyfel. Ai yn y foment y gwyddom beth sy’n iawn neu ai wrth edrych yn ôl a myfyrio dros y dystiolaeth?
Mentrwn oedi yn rhai o ddinasoedd Wcráin hefyd – yn Charcif, Odesa a Tserniftsi – enwau sydd yn ‘wers ddaearyddiaeth drychinebus’ heddiw, meddai Mererid Puw Davies yn ei hysgrif ‘Tserniftsi’, ond eto ‘yn byw yn y dychymyg, fel Odesa fawr rhwng tir a môr, fel llong fawreddog o’r oesau aur’. Tserniftsi amlieithog oedd cartref un o feirdd mwyaf moderniaeth, Paul Celan. Gwthia ei gerddi iaith i’r eithaf wrth geisio cyfleu canlyniadau’r Holocost a rhyfel, meddai Mererid Puw Davies. Trafodir yn yr ysgrif hon ei ‘olwg ddwysfyfyriol, heb fod yn sinigaidd, ar iaith a’i gallu i oroesi trais’ gan fyfyrio ar sgwrs a gafwyd gyda rhai o feirdd Wcráin yn dilyn ymosodiad Fladimir Pwtin ar eu gwlad.
Golwg wahanol a gawn ar Odesa gan yr awdur Wcreineg blaenllaw Iwri Andrwchofits. Wrth adrodd hanes ymweliad torllwyth o awduron o’r gorllewin ag Odesa, mae’n mynd dan groen y ddinas ond hefyd yn dychanu ymlyniad yr awduron hyn at y chwith: ‘Rydw i’n dychmygu bod yr anghydffurfiaeth ochr chwith hon yn fynegiant o gydymffurfiaeth sy’n nodweddiadol o’r milieu, sydd o’r farn bod peidio â bod ar y chwith i awdur yn warth. Mae peidio â bod ar y chwith yn golygu bod yn fochyn bwrgais. Beth allai fod yn waeth?’
Os ydi iaith – barddoniaeth – â’i grym arbennig ei hun, sy’n medru ‘golchi ar lannau’r galon’ ymhen blynyddoedd, megis neges mewn potel, chwedl Celan, beth am weithredu uniongyrchol?
Darllenwch y datganiad yn llawn ar wefan pedwargwynt.cymru.