Gyda COP 27 ar y gweill, mae’r gân yma yn teimlo’n hanfodol. Cafodd ei hysgrifennu adeg COP 26 wedi i Carys gael ei dewis i fod yn rhan o brosiect hinsawdd o’r enw ‘Everything Change’ gyda Dhaka Literature Festival yn Bangladesh a Chanolfan Taliesein, Abertawe, wedi’i arwain gan Margret Attwod a Owen Sheers.
Dyma ail sengl FFLOW – cân bwerus yn syth o’r galon. Cân sy’n gofyn i bobol i feddwl am y dyfodol ma nhw’n gadel ar ôl i bob eraill. “Ma lyrics y frawddeg dwetha wedi eu hanelu at arweinwyr y byd” meddai Carys. Mae’r lyrics yn bersonol iawn, yn edrych nol ar fywyd annwylyn coll, a wnaeth, fel mae’r gân yn dweud – ond adael cariad ar ôl.
Cefnogwyd y video gan Gerddi Botaneg Cymru, Label Coco & Cwtsh, Dhaka Literature Festival a chanolfan Taliesin. Saethwyd gan Andy Pritchard & Stephen Hart, cyd-cyfarwyddwyd can by Carys Eleri.
Lyrics a cherddoriaeth gan Carys Eleri, trefniant, offerynnau a chynhyrchiad sain gan Branwen Munn yn Goldhill Studios.
Ma’r ddwy ishe cyfeirio pobol at wahanol elusenau hinsawdd trwy gydol COP 27 er mwyn galluogi pobl i weithredu.
Ffurfiwyd FFLOW yn ystod y clo mawr. Wedi blynyddoedd o gydweithio ar brosiectau comedi, fe benderfynnodd y ddwy i greu band eu hun er mwyn mynegi ochrau mwy emosiynol eu hunain a mynd gyda’r FFLOW 😉 Ar ôl gweithio ar brosiect gyda National Theatre Wales yn ystod y clo mawr a chyd-greu’r gan ‘Go Tell the Bees – Dod Nol at fy Nghoed’, cân sy’n ffocysu ar gysyllltiad gyda natur yn wyneb galar, mae’r ddwy erbyn hyn ar siwrne i ddarganfod y seiniau hynny sy’n ein cysuro a’n codi ni yn ein orie annoddaf.